Mae llawer o bethau i’w gweld a’u mwynhau yn nhref Prestatyn heddiw – traeth euraid, twyni tywod, promenâd 4 milltir o hyd, stryd fawr Fictoraidd, clwb golff, parciau carafannau, canolfan ffitrwydd a sinema.
Roedd pethau’n wahanol iawn yma 2,000 o flynyddoedd yn ôl, pan fu’r Rhufeiniad yma. Roedd pencadlys 20fed Lleng y Rhufeiniaid yng Nghaer a chredir bod ganddi gaer fechan yn ardal Prestatyn. Yn 1984, bu archaeolegwyr yn cloddio safle baddondy Rhufeinig mewn ardal sydd bellach yn ffordd breswyl. Mae tair ystafell i’w gweld ar y safle, a chafwyd hyd i ôl pawen ci ar un o’r teils, wedi i gi gerdded ar y clai gwlyb! Roedd yr ardal hon yn bwysig iawn i’r Rhufeiniaid gan fod plwm ar gael ger Alltmelyd, uwchlaw’r dref. Mae’n ymddangos i’r plwm gael ei brosesu’n lleol cyn ei allforio o’r porthladd i Gaer. Ar ôl bwlch o sawl canrif, dechreuwyd mwyngloddio am blwm yn y drydedd ganrif ar ddeg hyd at 1850, ac mae’r hanes diwydiannol hwn yn cael ei ddathlu yn Amgueddfa Y Shed yn Alltmelyd, ynghyd â hanes chwareli lleol eraill.
I ddathlu treftadaeth Rufeinig y dref, dadorchuddiwyd cerflun o helmed Rufeinig yn y gerddi ar ochr y bryn. Mae’n cynnwys dail y dderwen ddigoes a chafodd disgyblion yr ysgol uwchradd leol eu gwahodd i gyfrannu at y gwaith addurniadol. Bydd cerddwyr sy’n dechrau – neu’n cwblhau – taith ar Lwybr Clawdd Offa yn pasio’r cerflun. Mae Llwybr Clawdd Offa yn ymestyn am 177 milltir o Brestatyn i Gas-gwent, ar aber afon Hafren.
Mae golygfeydd godidog i’w cael ym Mhrestatyn, gan gynnwys y fferm wynt alltraeth gyntaf yn y wlad, North Hoyle, sydd bum milltir allan yn y môr. Ddwy filltir i’r de o’r dref (i gyfeiriad y bryniau) mae rhaeadr ysblennydd Dyserth yn syrthio 70 troedfedd (21m). Mae’n bosibl bod y muriau hanesyddol gerllaw wedi cynnal olwyn ddŵr fawr.