Agorwyd yr orsaf hon, ym 1907, yn fwy diweddar na gweddill y gorsafoedd ar y lein, i wasanaethu pentref glan môr Rhosneigr.
Yn enillydd Gwobr Arfordir Glas, mae traeth Rhosneigr yn ddim ond 20 munud o gerdded o’r orsaf reilffordd. Gyda dau draeth llydan a thywodlyd, mae’n ganolfan boblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr, ac yn berffaith i deuluoedd sy’n chwilio am ddiwrnod traddodiadol allan ar y traeth yn ystod yr haf.
Mae Llyn Maelog, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), yn agosach fyth – llai na deng munud ar droed o’r pentref. Yma gallwch ddilyn llwybrau hygyrch dros y gwelyau cors i gael cipolwg ar drigolion gwyllt y llyn. Pwynt o ddiddordeb ar gyfer selogion hanes yw’r ffaith iddo fod ar un adeg yn safle prysur yn y diwydiant adeiladu llongau, a sefydlwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif.
Pan gychwynnodd y ganolfan awyr gyfagos yn Y Fali ym 1941, RAF Rhosneigr oedd ei enw, yn unol â thraddodiad y llu awyr o enwi canolfannau ôl yr orsaf reilffordd agosaf.