Diolch i’r traeth euraid hir, y Rhyl oedd un o’r trefi cyntaf ar arfodir Gogledd Cymru i ddatblygu yn gyrchfan gwyliau – adeiladwyd dau westy yma yn yr 1820au, a rhoddwyd hwb i’r diwydiant twristiaeth yn sgil dyfodiad y rheilffordd yn 1848. Datblygodd y dref yn gyflym iawn, ac mae llawer o’r adeiladau sy’n dyddio o’r cyfnod hwnnw bellach yn Adeiladau Rhestredig, gan gynnwys yr Orsaf Drenau, Neuadd y Dref, capeli, Ysbyty Frenhinol Alexandra, a sawl tŷ. Dyluniwyd Eglwys Sant Thomas, adeilad trawiadol neo-gothig, gan y pensaer Fictoraidd adnabyddus George Gilbert Scott ac mae’n Adeilad Rhestredig Gradd 2*. Cafodd y brics coch a ddefnyddiwyd yn llawer o adeiladau’r dref yn oes Victoria ac ar ddechrau’r ugeinfed ganrif eu gwneud yn lleol.
Mae Harbwr y Rhyl, ger aber afon Clwyd, wedi cael ei ddatblygu ac mae pont droed/beics yn croesi’r afon erbyn heddiw i gysylltu â llwybr beicio Gogledd Cymru. Mae’r bont yn codi gan adael i longau basio. Mae’r llyn gerllaw, sef yr hen ‘marine lake’ yn lle braf i hwylio, canwio, ceufadu a hwylfyrddio, neu gallwch fynd am reid ar y trên bach, yr hynaf yn y Deyrnas Unedig, neu ymweld â’r arena awyr agored ar y promenâd. Atyniad poblogaidd arall yw parc dŵr modern SC2, lle ceir amrywiaeth dda o gyfleusterau y gall pobl o bob oed eu mwynhau.
Theatr y Pafiliwn yw’r trydydd adeilad yn y dref i gael yr enw hwnnw, ac mae’n cynnal amrywiaeth o berfformiadau ar hyd y flwyddyn. Roedd tŵr uchel The Sky Tower yn rhan o Ŵyl Erddi Glasgow yn 1993 cyn iddo gael ei symud i’r Rhyl. Cafodd ei ddatgomisiynu yn 2010 am resymau diogelwch ac mae bellach yn oleufa.
Yn nyfnderoedd y môr gerllaw cafodd sawl llong ac awyren eu dryllio. Un o’r rhain oedd y ‘Resurgam’, llong danfor gynnar wedi’i phweru gan injan, a suddodd oddi ar arfordir y Rhyl yn 1880. Mae bellach yn Llongddrylliad Gwarchodedig.