Gorsaf anarferol yw un Shotton gan ei bod ar ddau lefel. Mae trenau Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn aros ar blatfformau’r lefel isaf, ac mae trenau Rheilffordd y Gororau yn aros yn yr orsaf uchaf. Mae’r orsaf gyferbyn â Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n cysylltu Caer â Gogledd Cymru. Mae Llwybrau Beicio 563 a 56 gerllaw hefyd.
I’r dwyrain o orsaf Shotton saif pont drawiadol Penarlâg, sy’n croesi afon Dyfrdwy. Hon oedd y bont droi fwyaf yn y byd pan gafodd ei hadeiladu yn 1889. Heddiw mae Pont Penarlâg (sy’n rhan o Reilffordd y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston) yn cysylltu Shotton â gwaith dur enfawr Tata yr ochr arall i’r afon. Mae llawer o adar yn byw yn y gwlyptiroedd a chornentydd ar lan afon Dyfrdwy. Mae’r afon yn llanwol yma, ac mae llywio’r llongau mawr yn dipyn o her oherwydd y pontydd niferus.
Tua 1.5 milltir i’r de o orsaf Shotton mae Parc Gwledig Gwepra, lle ceir aceri o goetiroedd hardd, nentydd, rhaeadr, Gerddi’r Hen Neuadd, a phwll pysgota. Ymhlith cyfleusterau’r Parc Gwledig mae maes chwarae i blant, canolfan ymwelwyr, caffi a thoiledau. Mae Parc Gwledig Gwepra ar safle hen goedwig fawr Ewloe oedd yn ymestyn yr holl ffordd i lannau afon Dyfrdwy yn ystod yr oesoedd canol.
Gallwch gerdded drwy Barc Gwledig Gwepra i ymweld ag adfeilion Castell Ewloe yng nghanol y coed. Mae Castell Ewloe yng ngofal CADW ac mae mynediad am ddim i’r cyhoedd. Mae’n enghraifft anghyffredin o gastell Cymreig bach o’r drydedd ganrif ar ddeg, ac mae adfeilion y gorthwr, tyrau, muriau a’r ffosydd i’w gweld o hyd. Er bod y safle yn heddychlon heddiw, bu brwydro ffyrnig rhwng y Cymry a’r Saeson ar y safle hwn yn y gorffennol.