Trafnidiaeth Cymru a Ramblers Cymru ‘Trên, siarad, cerdded’
Ym mis Ionawr 2023 lansiwyd partneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru a Ramblers Cymru i annog pobl leol ac ymwelwyr i fynd allan am dro yn eu cymunedau lleol ac ardaloedd llai adnabyddus, a hynny gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Lansiwyd 22 taith gerdded newydd sy’n dechrau o’r gorsafoedd trên, ac roedd 15 o’r rhain yng Ngogledd Cymru.
Dilynwch y mapiau darluniadol i ddarganfod trysorau cudd.


Ar y Trên ac Ar Droed ar hyd Llwybr Arfordir Cymru
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymdroelli ar hyd arfordir godidog Cymru ac yn lle gwych i fwynhau golygfeydd bendigedig o glogwyni garw, traethau melyn, a phorthladdoedd tlws. Y gorsafoedd trenau ar hyd rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yw’r pyrth i Lwybr Arfordir Cymru gan gynnig profiad gwych ar y trên ac ar droed.
Go Jauntly
Mae Go Jauntly yn ap cerdded arloesol, hawdd ei ddefnyddio, sy’n helpu pobl i fwynhau mynd am dro yn yr awyr agored. Ei nod yw gwella lles a meithrin cysylltiad â byd natur, ac mae’n cynnwys teithiau cerdded amrywiol sy’n addas i bobl o bob lefel ffitrwydd. Diolch i’r bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru a Go Jauntly gallwch ddilyn dros 100 milltir o deithiau cerdded, pob un yn cynnwys ffotograffau arweiniol, o orsafoedd rheilffordd ar draws Cymru.

Railwalks: Llwybr Arfordir Cymru
Mae Railwalks wedi ymrwymo i hyrwyddo teithio cynaliadwy a hyrwyddo rhyfeddodau arfordir Cymru.
Maent wedi creu tudalen we bwrpasol sy’n arddangos 35 o deithiau cerdded sy’n para diwrnod anhygoel ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, llwybrau y mae modd eu cyrraedd ar y trên.
Mae gan y map deithiau cerdded arfordirol ar gyfer pob lefel ffitrwydd: ymlwybro o amgylch Bae Caerdydd i heicio ar hyd arfordir clogwynog Sir Benfro.
Ein Newyddion Diweddaraf
Detholiad o’n postiadau cyfryngau cymdeithasol diweddaraf – Yr holl newyddion

Rails To Trails: Menopause Walks

Rheilffordd 200 yn cael ei lansio yn Aberystwyth


Rails To Trails: Menopause Walks

Rheilffordd 200 yn cael ei lansio yn Aberystwyth
